Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA43
Teitl: Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Rhif 2) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn gorfodi, yng Nghymru, Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid na fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 (“Rheoliad Rheolaeth yr UE”). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gorfodi, yng Nghymru, Reoliad y Comisiwn Rhif 142/2011 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid na fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC o ran samplau ac eitemau penodol a eithrir o wiriadau milfeddygol wrth y ffin o dan y Gyfarwyddeb honno (“Rheoliad Gweithredu'r UE”), ac sy’n rhoi atodiad technegol i’r rheoliadau hynny o reoliad rheolaeth yr UE. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Sgilgynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2011.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd.
Rhinweddau: craffu
Bu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol y Trydydd Cynulliad (y Pwyllgor) yn ystyried “Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2011” (CA553) ar 17 Mawrth 2011. Mae’r rheoliadau sydd gerbron y Pwyllgor ar hyn o bryd (Rheoliadau Rhif 2) yn dirymu ac yn disodli’r rheoliadau blaenorol (y rheoliadau gwreiddiol).
Roedd y rheoliadau gwreiddiol, pan y’u cyflwynwyd, yn torri’r rheol 21 diwrnod er mwyn sicrhau nad oedd “bwlch gorfodi” rhyngddynt a chyfundrefn orfodi flaenorol. Adroddodd y Pwyllgor ynghylch nifer helaeth o ddiffygion technegol yn y rheoliadau gwreiddiol yn ogystal â phwyntiau ehangach ar rinweddau’r rheoliadau. Nid oes fawr o amheuaeth bod nifer o’r diffygion technegol, gan gynnwys y ffaith mai yn Saesneg y lluniwyd y rheoliadau, wedi’u hachosi gan y ffaith iddynt gael eu gwneud ar fyrder.
Roedd y rheoliadau gwreiddiol hefyd yn codi pwyntiau rhinweddau sylweddol gan gynnwys pryderon ynghylch hawliau dynol a’r hawl eithaf dilyffethair i gael mynediad i dai annedd preifat a phryderon ynghylch cymesuredd y cosbau y gellir eu rhoi o dan y rheoliadau. Mae adroddiad y Pwyllgor ar y rheoliadau gwreiddiol wedi’i atodi er gwybodaeth.
Ar y llaw arall, mae’r Pwyllgor yn falch o nodi nad oes diffygion technegol wedi’u nodi o ran rheoliadau rhif 2, sy’n cael eu llunio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn falch o nodi bod rheoliadau rhif 2 bellach yn cynnwys darpariaethau sy’n diogelu perchnogion tai preifat drwy’r ddarpariaeth benodol bod angen cael gwarant i orfodi’r hawl i gael mynediad.
Er bod y cosbau yn rheoliadau rhif 2 yr un peth â’r rheiny yn y rheoliadau gwreiddiol, mae’r Memorandwm Esboniadol yn esbonio bod y cosbau yr un fath â’r rhai a ddefnyddir yn Lloegr ac y gallai methu â chydymffurfio â darpariaethau’r rheoliadau arwain at risgiau difrifol i iechyd pobl ac anifeiliaid. Mae’r cosbau’n adlewyrchu difrifoldeb y risg hwn ac mae’r Pwyllgor yn fodlon derbyn barn y Llywodraeth ar y pwynt hwnnw.
Ar sail pryder y Pwyllgor blaenorol ynghylch y rheoliadau gwreiddiol, creda’r Pwyllgor ei bod yn bwysig nodi’n gyhoeddus nad yw’r pryderon hyn yn berthnasol i reoliadau rhif 2.
Cytuna’r Pwyllgor felly i adrodd y dylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i’r rheoliadau ar y sail eu bod yn codi materion o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad. [Rheol Sefydlog 21.3(ii)]
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Hydref 2011
Atodiad i Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch CLA43 (Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Rhif 2) (Cymru) 2011)